6. Os da neu os drwg fydd, ar lais yr Arglwydd ein Duw, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr Arglwydd ein Duw.
7. Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia.
8. Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr,
9. Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef;
10. Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a'ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a'ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi.
11. Nac ofnwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr Arglwydd: canys myfi a fyddaf gyda chwi i'ch achub, ac i'ch gwaredu chwi o'i law ef.
12. A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i'ch gwlad eich hun.
13. Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr Arglwydd eich Duw,
14. Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Aifft yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni:
15. Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr Arglwydd Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i'r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno,
16. Yna y bydd i'r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a'r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a'ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw.