Jeremeia 39:8-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A'r Caldeaid a losgasant dŷ y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem.

9. Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a'r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid.

10. A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda, ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.

Jeremeia 39