Jeremeia 38:16-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes.

17. Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, Duw Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a'th deulu.

18. Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a'i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o'u llaw hwynt.

19. A'r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i'r rhai hynny fy ngwatwar.

20. A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a'th enaid a fydd byw.

21. Ond os gwrthodi fyned allan, dyma y gair a ddangosodd yr Arglwydd i mi:

22. Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a'th hudasant, ac a'th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl.

Jeremeia 38