11. Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a'u gollyngodd i waered at Jeremeia i'r daeardy wrth raffau.
12. Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a'r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. A Jeremeia a wnaeth felly.
13. Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a'i codasant ef o'r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.
14. Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i'r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr Arglwydd; a'r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi.
15. A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia, Os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf?
16. Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes.
17. Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, Duw Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a'th deulu.