13. A phan oedd efe ym mhorth Benjamin, yr oedd yno ben‐swyddog, a'i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti.
14. Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a'i dygodd ef at y tywysogion.
15. Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a'i trawsant, ac a'i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy.
16. Pan ddaeth Jeremeia i'r daeardy, ac i'r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer;
17. Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a'i cymerodd ef allan: a'r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr Arglwydd? A dywedodd Jeremeia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon.
18. Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i'th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y'm rhoddasoch yn y carchardy?
19. Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi, gan ddywedyd, Ni ddaw brenin Babilon i'ch erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?