Jeremeia 32:24-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i'w goresgyn hi; a'r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a'r newyn, a'r haint: a'r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a'i gweli.

25. A thi a ddywedaist wrthyf, O Arglwydd Dduw, Prŷn i ti y maes ag arian, a chymer dystion: gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid.

26. Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd,

27. Wele, myfi yw yr Arglwydd, Duw pob cnawd: a oes dim rhy anodd i mi?

28. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a'i hennill hi.

29. A'r Caldeaid, y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a'i llosgant hi, a'r tai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i Baal, ac y tywalltasant ddiod‐offrwm i dduwiau dieithr, i'm digio i.

30. Oblegid meibion Israel, a meibion Jwda, oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o'u mebyd: oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i â gweithredoedd eu dwylo, medd yr Arglwydd.

31. Canys i'm digofaint, ac i'm llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb:

Jeremeia 32