Jeremeia 3:3-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio.

4. Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid?

5. A ddeil efe ei ddig byth? a'i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.

6. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno.

7. A mi a ddywedais, wedi iddi wneuthur hyn i gyd, Dychwel ataf fi. Ond ni ddychwelodd. A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny.

8. A gwelais yn dda, am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig, ollwng ohonof hi ymaith, ac a roddais iddi ei llythyr ysgar: er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd.

9. A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda'r maen a'r pren y puteiniodd hi.

10. Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â'i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr Arglwydd.

11. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Israel wrthnysig a'i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.

12. Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua'r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr Arglwydd, ac ni adawaf i'm llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr Arglwydd, ni ddaliaf lid yn dragywydd.

13. Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr Arglwydd.

14. Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr Arglwydd; canys myfi a'ch priodais chwi: a mi a'ch cymeraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a'ch dygaf chwi i Seion:

15. Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a'ch porthant chwi â gwybodaeth, ac â deall.

16. Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni ddywedant mwy, Arch cyfamod yr Arglwydd; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.

17. Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr Arglwydd; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr Arglwydd, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.

Jeremeia 3