1. Ac yn y flwyddyn honno, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn, ar y pumed mis, y llefarodd Hananeia mab Asur y proffwyd, yr hwn oedd o Gibeon, wrthyf fi yn nhŷ yr Arglwydd, yng ngŵydd yr offeiriaid a'r holl bobl, gan ddywedyd,
2. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Myfi a dorrais iau brenin Babilon.
3. O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i'r lle hwn holl lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o'r lle hwn, ac a'u dug i Babilon;
4. Ac mi a ddygaf Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i'r lle hwn, medd yr Arglwydd; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.