Jeremeia 24:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr Arglwydd a ddangosodd i mi, ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr Arglwydd, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda'r seiri a'r gofaint o Jerwsalem, a'u dwyn i Babilon.

2. Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a'r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced.

3. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Beth a weli di, Jeremeia? A mi a ddywedais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a'r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced.

4. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais o'r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni.

6. Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a'u dygaf drachefn i'r wlad hon, ac a'u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ac nis diwreiddiaf.

Jeremeia 24