Jeremeia 22:26-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Bwriaf dithau hefyd, a'th fam a'th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni'ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw.

27. Ond i'r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno.

28. Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a'i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant?

29. O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd.

30. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi‐blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o'i had ef un a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.

Jeremeia 22