6. Trawaf hefyd drigolion y ddinas hon, yn ddyn, ac yn anifail: byddant feirw o haint mawr.
7. Ac wedi hynny, medd yr Arglwydd, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i weision, a'r bobl, a'r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a'u tery hwynt รข min y cleddyf; ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.
8. Ac wrth y bobl hyn y dywedi, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes, a ffordd angau.