12. O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i'm llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.
13. Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr Arglwydd; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i'n herbyn? neu, Pwy a ddaw i'n hanheddau?
14. Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr Arglwydd; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig, ac efe a ysa bob dim o'i hamgylch hi.