Jeremeia 20:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben‐llywodraethwr yn nhŷ yr Arglwydd, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn;

2. Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a'i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd.

Jeremeia 20