12. Fel hyn y gwnaf i'r lle hwn, medd yr Arglwydd, ac i'r rhai sydd yn trigo ynddo; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet.
13. A thai Jerwsalem, a thai brenhinoedd Jwda, a fyddant halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddiod‐offrymau i dduwiau dieithr.
14. Yna y daeth Jeremeia o Toffet, lle yr anfonasai yr Arglwydd ef i broffwydo, ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl,
15. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i'w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.