20. Yr ydym yn cydnabod, Arglwydd, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di.
21. Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant: cofia, na thor dy gyfamod รข ni.
22. A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Onid ti yw efe, O Arglwydd ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.