Ioan 7:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod.

7. Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond myfi y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg.

8. Ewch chwi i fyny i'r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i'r ŵyl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i eto.

9. Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea.

10. Ac wedi myned o'i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd a aeth i fyny i'r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel.

11. Yna yr Iddewon a'i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe?

12. A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo'r bobl y mae.

Ioan 7