Ioan 5:2-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac y mae yn Jerwsalem, wrth farchnad y defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ac iddo bum porth;

3. Yn y rhai y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr.

4. Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i'r llyn, ac yn cynhyrfu'r dwfr: yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu'r dwfr, a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno.

5. Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain.

6. Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?

7. Y claf a atebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i'm bwrw i'r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o'm blaen i.

8. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod cymer dy wely i fyny, a rhodia.

9. Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach; ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd. A'r Saboth oedd y diwrnod hwnnw.

10. Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, Y Saboth yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely.

11. Efe a atebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.

12. Yna hwy a ofynasant iddo, Pwy yw'r dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia?

13. A'r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliasai o'r dyrfa oedd yn y fan honno.

14. Wedi hynny yr Iesu a'i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.

15. Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i'r Iddewon, mai'r Iesu oedd yr hwn a'i gwnaethai ef yn iach.

16. Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth.

17. Ond yr Iesu a'u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio.

18. Am hyn gan hynny yr Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dorri'r Saboth, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal â Duw.

19. Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae'r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur.

20. Canys y Tad sydd yn caru'r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na'r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.

21. Oblegid megis y mae'r Tad yn cyfodi'r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae'r Mab yn bywhau y rhai a fynno.

22. Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i'r Mab:

Ioan 5