Ioan 20:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac wedi dywedyd ohoni hyn, hi a droes drach ei chefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac nis gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe.

15. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau, yn tybied mai'r garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syr, os tydi a'i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymeraf ef ymaith.

16. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni; yr hyn yw dywedyd, Athro.

17. Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd รข mi; oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a'ch Tad chwithau, a'm Duw i a'ch Duw chwithau.

18. Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i'r disgyblion, weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn iddi.

Ioan 20