26. Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i'r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd?
27. Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.
28. Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i'r dadleudy: a'r bore ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i'r dadleudy, rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta'r pasg.
29. Yna Peilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?
30. Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti.
31. Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb:
32. Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw.
33. Yna Peilat a aeth drachefn i'r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon?