14. A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i'r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.
15. Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a'r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda'r Iesu i lys yr archoffeiriad.
16. A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn.
17. Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf.
18. A'r gweision a'r swyddogion, gwedi gwneuthur tân glo, oherwydd ei bod hi'n oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymo: ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymo.
19. A'r archoffeiriad a ofynnodd i'r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth.
20. Yr Iesu a atebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae'r Iddewon yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim.
21. Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai a'm clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i.
22. Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o'r swyddogion a'r oedd yn sefyll gerllaw, a roddes gernod i'r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti'n ateb yr archoffeiriad?
23. Yr Iesu a atebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o'r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i?
24. Ac Annas a'i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad.
25. A Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymo. Hwythau a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o'i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf.
26. Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i'r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd?
27. Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.