Ioan 17:9-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt.

10. A'r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a'r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt.

11. Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau.

12. Tra fûm gyda hwynt yn y byd, mi a'u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi, a gedwais, ac ni chollwyd ohonynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythur.

13. Ac yr awron yr wyf yn dyfod atat: a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.

14. Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a'r byd a'u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o'r byd, megis nad ydwyf finnau o'r byd.

15. Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd hwynt allan o'r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg.

16. O'r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o'r byd.

17. Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd.

18. Fel yr anfonaist fi i'r byd, felly yr anfonais innau hwythau i'r byd.

19. Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd.

Ioan 17