Ioan 15:24-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac a'm casasant i a'm Tad hefyd.

25. Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a'm casasant yn ddiachos.

26. Eithr pan ddĂȘl y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi.

27. A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o'r dechreuad gyda mi.

Ioan 15