Ioan 13:14-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd;

15. Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi.

16. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw'r gwas yn fwy na'i arglwydd; na'r hwn a ddanfonwyd yn fwy na'r hwn a'i danfonodd.

17. Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.

18. Nid wyf fi yn dywedyd amdanoch oll; mi a wn pwy a etholais: ond fel y cyflawnid yr ysgrythur, Yr hwn sydd yn bwyta bara gyda mi, a gododd ei sawdl yn fy erbyn.

19. Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddĂȘl, y credoch mai myfi yw efe.

20. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.

21. Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi.

22. Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd.

Ioan 13