Ioan 12:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Gwybu gan hynny dyrfa fawr o'r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.

10. Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd:

11. Oblegid llawer o'r Iddewon a aethant ymaith o'i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.

12. Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i'r ŵyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerwsalem,

Ioan 12