Ioan 12:19-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.

20. Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl:

21. Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.

Ioan 12