Ioan 11:16-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd‐ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef.

17. Yna yr Iesu wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.

18. A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi:

19. A llawer o'r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair, i'w cysuro hwy am eu brawd.

20. Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i'w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.

21. Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.

22. Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.

Ioan 11