Iago 1:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Iago, gwasanaethwr Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, annerch.

2. Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau;

3. Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd.

4. Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim.

5. O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef.

6. Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt.

7. Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd.

8. Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.

9. Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth:

10. A'r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe.

11. Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yn ei ffyrdd.

12. Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i carant ef.

13. Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y'm temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb.

Iago 1