1. Gwinwydden wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg.
2. Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a ddistrywia eu delwau.
3. Canys yr awr hon y dywedant, Nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr Arglwydd; a pheth a wnâi brenin i ni?
4. Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur amod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meysydd.
5. Preswylwyr Samaria a ofnant oherwydd lloeau Beth‐afen; canys ei bobl a alara drosto, a'i offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymado oddi wrtho ef.
6. Hefyd efe a ddygir i Asyria yn anrheg i frenin Jareb: Effraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a fydd cywilydd ganddo ei gyngor ei hun.
7. Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr.
8. A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau: a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom.