Hebreaid 8:6-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell.

7. Oblegid yn wir pe buasai'r cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i'r ail.

8. Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, Wele, y mae'r dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ac â thŷ Jwda gyfamod newydd:

Hebreaid 8