Hebreaid 7:6-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo.

7. Ac yn ddi‐ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well.

8. Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw.

9. Ac, fel y dywedwyf felly, yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymryd degymau.

Hebreaid 7