Hebreaid 3:16-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Canys rhai, wedi gwrando, a'i digiasant ef: ond nid pawb a'r a ddaethant o'r Aifft trwy Moses.

17. Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch?

18. Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn i'w orffwysfa ef? onid wrth y rhai ni chredasant?

19. Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth.

Hebreaid 3