Hebreaid 2:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Am hynny y mae'n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli.

2. Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd‐dod gyfiawn daledigaeth;

3. Pa fodd y dihangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint, yr hon, wedi dechrau ei thraethu trwy'r Arglwydd, a sicrhawyd i ni gan y rhai a'i clywsant ef:

4. A Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu, trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Ysbryd Glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?

5. Canys nid i'r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru.

6. Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef?

7. Ti a'i gwnaethost ef ychydig is na'r angylion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a'i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo:

8. Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo.

Hebreaid 2