Genesis 7:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob cnawd a'r oedd ynddo anadl einioes.

16. A'r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai Duw iddo. A'r Arglwydd a gaeodd arno ef.

17. A'r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a'r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.

18. A'r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a'r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.

Genesis 7