Genesis 6:19-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i'r arch i'w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant.

20. O'r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o'r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i'w cadw yn fyw.

21. A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.

22. Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Duw iddo, felly y gwnaeth efe.

Genesis 6