Genesis 5:24-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. A rhodiodd Enoch gyda Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a'i cymerodd ef.

25. Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.

26. A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

Genesis 5