Genesis 49:9-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Cenau llew wyt ti, Jwda; o'r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a'i cyfyd ef?

10. Nid ymedy'r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd.

11. Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a'i ddillad yng ngwaed y grawnwin.

12. Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.

13. Sabulon a breswylia ym mhorth‐leoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a'i derfyn fydd hyd Sidon.

14. Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.

15. Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a'r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.

16. Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.

17. Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau'r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.

18. Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.

19. Gad, llu a'i gorfydd; ac yntau a orfydd o'r diwedd.

20. O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.

Genesis 49