Genesis 46:32-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. A'r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a'u gwartheg, a'r hyn oll oedd ganddynt.

33. A phan alwo Pharo amdanoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith?

34. Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o'u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a'n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd‐dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid.

Genesis 46