Genesis 41:21-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ac er eu myned i'w boliau, ni wyddid iddynt fyned i'w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais.

22. Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o'r un gorsen.

23. Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt.

24. A'r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a'i dehonglai i mi.

Genesis 41