Genesis 40:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Darfu wedi'r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a'r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft.

2. A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen‐trulliad, a'r pen‐pobydd:

3. Ac a'u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ'r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym.

4. A'r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a'u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.

Genesis 40