Genesis 39:11-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseff ddyfod i'r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.

12. Hithau a'i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.

13. A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan;

14. Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i'n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi; minnau a waeddais â llef uchel;

15. A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi; yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.

16. A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

17. A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrewas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth ataf i'm gwaradwyddo;

18. Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.

Genesis 39