Genesis 39:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Joseff a ddygwyd i waered i'r Aifft: a Potiffar yr Eifftwr, tywysog Pharo a'i ddistain, a'i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a'i dygasant ef i waered yno.

2. Ac yr oedd yr Arglwydd gyda Joseff, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad.

3. A'i feistr a welodd fod yr Arglwydd gydag ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.

4. A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a'i gwasanaethodd ef: yntau a'i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.

5. Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i'r Arglwydd fendithio tŷ'r Eifftiad, er mwyn Joseff: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.

Genesis 39