Genesis 38:12-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua, gwraig Jwda: a Jwda a gymerth gysur, ac a aeth i fyny i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a'i gyfaill Hira yr Adulamiad.

13. Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn myned i fyny i Timnath, i gneifio ei ddefaid.

14. Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani, ac a'i cuddiodd ei hun รข gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.

15. A Jwda a'i canfu hi, ac a dybiodd mai putain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.

16. Ac efe a drodd ati hi i'r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf?

17. Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?

Genesis 38