Genesis 31:54-55 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

54. Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara: a hwy a fwytasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd.

55. A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a'i ferched, ac a'u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i'w fro ei hun.

Genesis 31