Genesis 30:5-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.

6. A Rahel a ddywedodd, Duw a'm barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.

7. Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob.

8. A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â'm chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali.

9. Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta, hi a gymerth ei llawforwyn Silpa, ac a'i rhoddes hi yn wraig i Jacob.

10. A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg fab i Jacob.

11. A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad.

12. A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob.

Genesis 30