Genesis 30:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi.

4. A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati.

5. A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob.

6. A Rahel a ddywedodd, Duw a'm barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan.

Genesis 30