Genesis 30:11-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad.

12. A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob.

13. A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a'm galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.

14. Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a'u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab.

15. Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab.

16. A Jacob a ddaeth o'r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y'th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno.

17. A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob.

Genesis 30