Genesis 3:22-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un ohonom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw yn dragwyddol:

23. Am hynny yr Arglwydd Dduw a'i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio'r ddaear, yr hon y cymerasid ef ohoni.

24. Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o'r tu dwyrain i ardd Eden, y ceriwbiaid, a chleddyf tanllyd ysgydwedig, i gadw ffordd pren y bywyd.

Genesis 3