Genesis 29:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jacob a gymerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.

2. Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o'r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau'r pydew.

3. Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau'r pydew, ac a ddyfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau'r pydew yn ei lle.

Genesis 29