Genesis 27:44-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. Ac aros gydag ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd;

45. Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y'th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd?

46. Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes oherwydd merched Heth: os cymer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwenychwn fy einioes?

Genesis 27