Genesis 25:28-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o'i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.

29. A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o'r maes, ac efe yn ddiffygiol.

30. A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o'r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.

31. A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth‐fraint.

32. A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna'r enedigaeth‐fraint hon i mi?

Genesis 25